Croeso!
Datblygodd Côr Bro Gwerfyl yn naturiol iawn o fwrlwm gweithgarwch a llwyddiannau cenedlaethol Aelwyd Bro Gwerfyl (sefydlwyd 1987). Do bu’r Aelwyd yn llwyddiannus iawn yn ei chyfnod gan ddod i’r brig yn Eisteddfod yr Urdd dros gyfnod o ddeng mlynedd. Gydag anogaeth lleol a brwdfrydedd yr aelodau i barhau fel côr, llwyddwyd i wneud hynny a sefydlu Côr Bro Gwerfyl. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r côr wedi bod yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Wyl Cerdd Dant ac Eisteddfod Cadair a Thalaith Powys.
Bellach yn griw bach cartrefol mae calendr y côr yn brysur tu hwnt o flwyddyn i flwyddyn. Mae gwahoddiadau lu yn dod i law am Gyngerdd, Noson Lawen neu Wedi’r Oedfa ac mae cael teithio hyd a lled y wlad yn gyffrous, yn plesio bob amser ac yn cynnig llawer iawn o hwyl!
Mae’n gyfnod sydd wedi cynnig ystod eang o brofiadau i’r gymdeithas glos sydd erbyn heddiw yn Gôr Bro Gwerfyl. Mae’r llwyddiant hefyd yn ffynnu o’r ffaith ein bod fel aelodau’r côr yn ffrindiau gorau drwy’r llon a’r lleddf. Diolch diffuant i bawb sydd wedi cynorthwyo mewn unrhyw ffordd i sicrhau gwireddu cyhoeddi casgliad o ganeuon ar ein CD newydd Adeiladu Mynydd.
